Os ydych chi'n Rhiant disgybl sy'n byw yng
Nghasnewydd, gallwch hefyd gyrchu ein gwasanaeth cwnsela i oedolion trwy'r ddolenhon
Mewn argyfwng ffoniwch Childline ar 0800 1111 neu'r Samariaid ar 116 123.
Os hoffech drafod yr uchod, cysylltwch â'r Rheolwr Gwasanaeth [email protected]
Gall rieni, gwarcheidwaid cyfreithiol a gweithwyr proffesiynol gyfeirio plentyn at TalkingZone gan ddefnyddio ein ffurflen atgyfeirio ar-lein. Pan fydd yr atgyfeiriad wedi cael ei gwblhau, bydd yn cael ei anfon yn uniongyrchol at therapydd TalkingZone. Yna, bydd y therapydd yn asesu'r atgyfeiriad ac yn cysylltu â'r atgyfeiriwr o fewn 3 diwrnod gwaith. Bydd hyn yn cadarnhau derbyn yr atgyfeiriad ac yn darparu amcangyfrif o'r amser aros am apwyntiad cychwynnol. Cyn gwneud yr atgyfeiriad, sicrhewch eich bod wedi cael trafodaeth gyda'r plentyn a bod y plentyn yn cytuno i'r cwnsela.
Gall blentyn dderbyn hyd at 9 sesiwn o gwnsela gyda chwnselydd dan arolygiaeth yn ystod amser ysgol. Bydd pob sesiwn yn para tua 40 i 50 munud. Bydd y plentyn yn cael ei annog i weithio trwy ei bryderon gan ddefnyddio amrediad o weithgareddau. Lle bo'n bosib, mae'r broses hefyd yn ceisio cynorthwyo'r plentyn i adeiladu ar ei gryfderau ac, o bosib, i ddod o hyd i ddatrysiadau i'w pryderon.
Bydd yr apwyntiadau'n gyfrinachol oni bai ei bod yn dod yn amlwg bod eich plentyn neu rywun arall mewn perygl o niwed arwyddocaol. Yn yr achosion hyn, fe roddir sicrwydd i'ch plentyn y bydd y penderfyniadau gorau yn cael eu gwneud mewn perthynas â'u diogelwch neu ddiogelwch pobl eraill. Os oes angen cymorth a chefnogaeth ychwanegol ar eich plentyn, bydd hyn yn cael ei drafod yn ystod y sesiynau a bydd ymrwymiad rhieni'n cael ei annog er mwyn cyrraedd yr opsiynau gorau i fodloni anghenion unigol y plentyn. Cynhelir y sesiynau cwnsela mewn ystafelloedd preifat lle mae'ch plentyn a'r cwnselydd yw'r unig bobl yn bresennol. Er mwyn sicrhau bod arferion gorau yn cael eu dilyn, mae cwnselwyr yn derbyn goruchwyliaeth glinigol reolaidd ynghyd â chyfarfodydd rheolaidd â'u rheolwr llinell. Mae pob cwnselydd yn cael gwiriad diogelwch manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd bob blwyddyn.
Os ydych yn athro/athrawes neu'n weithiwr proffesiynol sydd eisiau cyfeirio plentyn/person ifanc, cwblhewch y ffurflen atgyfeirio cyn cael cydsyniad y rhiant/gwarcheidwad cyfreithiol i'w plentyn dderbyn cwnsela. Gellir gwneud hyn trwy ofyn i'r rhiant/gwarcheidwad cyfreithiol lenwi einffurflen cydsyniad gan rieni.