Ar gyfer rhieni, athrawon a gweithwyr proffesiynol eraill sydd eisiau gwybod mwy am wasanaethau cwnsela mewn ysgolion cynradd ac Ysgolion Anghenion Dysgu Ychwanegol.
Mae TalkingZone yn darparu mynediad at gwnselydd ym mhob ysgol gynradd ac anghenion addysgol arbennig yng Nghasnewydd, gan gefnogi plant a phobl ifanc sy'n teimlo gofid emosiynol. Mae cwnsela yn weithgaredd cyfrinachol a'r plentyn/person ifanc a'r cwnselydd yw'r unig rai a fydd yn ymwybodol o gynnwys y sesiynau, oni bai y bydd yn dod i'r amlwg bod yna risg o niwed arwyddocaol.
Fodd bynnag, bydd y cwnselydd yn annog rhieni neu warcheidwaid cyfreithiol i fod yn rhan o'r broses o'r cychwyn. Bydd cyfle ar gychwyn y cwnsela i'r rhiant neu warcheidwad gwrdd â'r cwnselydd. Mae hyn yn rhoi cyfle i drafod yr heriau mae'r plentyn yn eu hwynebu ac yn caniatáu i'r cwnselydd ennill gwell dealltwriaeth o sut i fynd ati i weithio gyda'r plentyn. Bydd cyfle hefyd i gwrdd â'r cwnselydd ar ddiwedd y sesiynau cwnsela er mwyn derbyn cyngor ar sut i gefnogi'r plentyn wedi i'r ymyrraeth ddod i ben.
Ar gyfer Rhieni, Athrawon a Gweithwyr Proffesiynol eraill sydd am gyfeirio Person Ifanc am gwnsela.
Er mwyn i rieni a gwarcheidwaid cyfreithiol ddarparu cydsyniad i'w plentyn dderbyn cwnsela yn yr ysgol gyda therapydd TalkingZone.
Yma fe welwch ddolenni defnyddiol at sefydliadau sy'n darparu cefnogaeth ar gyfer amrywiaeth o faterion y gallai fod yn effeithio arnoch.