Mae gwasanaeth cwnsela TalkingZone ar gyfer pobl ifanc sy'n mynychu Ysgolion Uwchradd yng Casnewydd. Mae TalkingZone yn darparu cwnselydd i'ch ysgol sy'n gweithio gydag unrhyw ddisgybl sy'n dymuno siarad am eu problemau personol.
Mae cwnsela yn breifat a chyfrinachol. Mae hynny’n golygu bod unrhyw beth rydych chi’n ei ddweud wrth y cwnselydd yn aros rhyngoch chi a’r cwnselydd oni bai eich bod yn dweud rhywbeth sy’n golygu eich bod mewn perygl difrifol o ddioddef niwed. Bydd y cwnselydd yn dweud mwy wrthych am hyn cyn i chi ddechrau.
Mae TalkingZone yn wasanaeth cwnsela ar-lein newydd i bobl ifanc rhwng 11-17 oed.Yn ogystal â'r cwnselydd sy’n gweithio yn eich ysgol, mae TalkingZone yn rhywle ychwanegol, sy’n ddiogel ac yn breifat lle gallwch siarad â chwnselydd drwy sgwrs destun neu gael help am rai o’r pethau a all fod yn eich poeni.
Mae TalkingZone hefyd yn darparu gwybodaeth a fideos hunangymorth sydd ar gael 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos.
Beth all cwnsela cynnig?
Mae pob un ohonym yn mynd trwy adegau yn ein bywyd lle mae siarad gyda’r person agosaf atom ni am bethau sy’n ein poeni ni yn anodd. Yn aml mae hyn oherwydd nad ydym eisiau iddyn nhw boeni amdanon ni neu rydym yn ofn beth allen nhw ddweud. Mae cwnselydd yna i wrando’n astud arnoch chi, heb feirniadu, ond i geisio gwneud i chi ddeall beth all fod yn eich poeni chi ac i’ch helpu chi darganfod ffordd i ddelio ar broblemau sydd genych.
Yma fe welwch ddolenni defnyddiol at sefydliadau sy'n darparu cefnogaeth ar gyfer amrywiaeth o faterion y gallai fod yn effeithio arnoch.
Am ymholiadau cyffredinol, gallwch gysylltu â'r gwasanaeth gan ddefnyddio'r manylion hyn: [email protected] neu ar 01633 432420
Rydym yn gobeithio bod eich sesiynau cwnsela wedi bod o gymorth. Rydym bob amser yn ceisio darparu’r gwasanaeth gorau posibl i’r bobl ifanc a welwn. Gan mai chi yw’r rhan bwysicaf o’r hyn rydym yn ei wneud, rydym am glywed gennych chi i gael gwybod a ydym wedi cael pethau’n iawn. Er mwyn cael gwybod sut rydych chi’n teimlo am y gwasanaeth, byddem yn falch iawn pe gallech lenwi ein ffurflen adborth. Bydd hyn yn rhoi gwybod i ni pa mor dda y gwnaethom neu beth sydd angen ei wella.