Gweithdrefn Gwyion

Mae Gwasanaeth Cwnsela TalkingZone wedi ymrwymo at ddarparu gwasanaeth cwnsela dibynadwy, cyfrinachol a chyfeillgar ond mae'n bosibl y bydd yna adegau pan nad ydym yn ei gael yn iawn. Er mwyn i'r gwasanaeth ddatblygu a pharhau i gwrdd â'i safonau uchel, lluniwyd y gweithdrefnau canlynol i fynd i'r afael â chwynion.

Yn y lle cyntaf, dylid trafod unrhyw faterion neu bryderon a godwyd gyda'r Cwnselydd gyda'r gobaith o ddod o hyd i ddatrysiad yn anffurfiol. Os nad oes modd datrys y broblem yn anffurfiol, dylid mynd at y cam nesaf, gan ddilyn y rhifau yn eu trefn

Bydd rheolwr y gwasanaeth yn ymdrin ag unrhyw gwynion yn ymwneud ag ymddygiad Cwnselwyr a Therapyddion sy'n gweithio ar ran y gwasanaeth mewn ysgolion neu leoliadau cymunedol ac unrhyw faterion perthnasol eraill.

Elizabeth Armitti

TalkingZone

Ysgol Seicoleg ac Astudiaethau Therapiwtig

Prifysgol De Cymru

Campws Dinas Casnewydd

Heol Brynbuga

Casnewydd

NP20 2BP

Ffôn: 01633 432603

E-bost: [email protected]

Mae gan bob ysgol ei Pholisi Gweithdrefn Gwynion ei hun. Siaradwch â'r Pennaeth neu'r Pennaeth Cynorthwyol i gael copi neu i wneud cwyn. Gallwch hefyd siarad ag unrhyw aelod o staff yn yr ysgol.

Bydd yr Ysgol Seicoleg ac Astudiaethau Therapiwtig yn ymchwilio i'ch cwyn yn ymwneud â Gwasanaeth Cwnsela TalkingZone, ei reolwr neu ei Gwnselwyr. Pe bydd angen uwchgyfeirio'r gŵyn, byddwn yn dilyn polisi Prifysgol De Cymru ar ymdrin â chwynion. Bydd y Brifysgol yn darparu ymateb ysgrifenedig o fewn 28 diwrnod o ddyddiad y gŵyn.

Jo Fowler

Pennaeth yr Ysgol 

Ysgol Seicoleg ac Astudiaethau Therapiwtig

Prifysgol De Cymru

Pontypridd

CF37 1DL

E-bost: [email protected]

Mae pob cymdeithas yn dibynnu ar aelodau o'r cyhoedd yn ogystal ag aelodau o broffesiynau eraill i ddod â materion o gwnsela/arferion therapi gwael ac anfoesegol at eu sylw. Dylai unrhyw un sy'n gwneud cwyn yn uniongyrchol i'r corff proffesiynol fod yn ymwybodol gyda pha un mae'r Cwnselydd/Therapydd wedi cofrestru. Mae gwasanaeth TalkingZone ei hun yn un o aelodau gwreiddiol BACP dan Brifysgol De Cymru. Am ragor o wybodaeth a/neu i wneud cwyn, dyma fanylion cyswllt y cymdeithasau hyn:

BACP: Yr Adran Ymddygiad Proffesiynol

Rhif ffôn: 01455 883300
Rhif ffacs: 01455 550243
E-bost: [email protected]

HCPC: Yr Adran Addasrwydd i Ymarfer

Rhif ffôn: 0800 328 4218

Rhif ffacs: 020 7582 4874

E-bost: [email protected]

HCPC: Yr Adran Addasrwydd i Ymarfer

Rhif ffôn: 0800 328 4218

Rhif ffacs: 020 7582 4874

E-bost: [email protected]

Y gymdeithas gwnsela genedlaethol

Rhif ffôn: 01903 200666

E-bost: [email protected]